Cefndir Llefydd Llewyrchus Cymru

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi’i seilio ar Fynegai Happy City, sef y ‘Thriving Places Index’, sy’n torri tir newydd ac sy’n mesur pa mor dda mae ardaloedd yn tyfu’r amodau ar gyfer llesiant cyfartal a chynaliadwy. Mae Data Cymru wedi gweithio gyda Happy City a’r Pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Gwent, i addasu’r teclyn ar gyfer y cyd-destun gwahanol a’r data sydd ar gael yng Nghymru.

Mae wedi’i lunio i ddarparu fframwaith adrodd cadarn i gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn ardaloedd lleol i wella bywydau ar lawr gwlad a helpu symud y ffocws, le wrth le, tuag at fesur yr hyn sy’n bwysig.

Mae’r gwaith wedi’i seilio ar flynyddoedd lawer o waith datblygu mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr o bob rhan o’r byd, academyddion, ymarferwyr a chymunedau lleol amrywiol. Yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn y fframwaith yw’r rhai y dangoswyd eu bod bwysicaf er mwyn i unigolion, cymunedau ac ardaloedd ffynnu. Maent yn diffinio llesiant cynaliadwy fel rhywbeth sy'n darparu cyfle cyfartal i genedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu. Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn cynnig golwg amgen ar lesiant o'i gymharu â mynegeion ariannol ac amddifadedd.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn defnyddio ystod eang o 55 o fesurau sy'n adlewyrchu'r ddealltwriaeth gynyddol bod llesiant yn gysyniad aml-ddimensiwn, sy'n cael ei bennu gan lawer o ffactorau amrywiol. Mae'r ffactorau hyn yn tueddu i gael eu cysylltu'n achosol â'i gilydd er mwyn creu 'gwe' o amodau sy'n effeithio ar lesiant pobl.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Data Cymru a Happy City, ac mae'n seiliedig ar Fynegai ‘Thriving Places’ Happy City.

Yn fras, mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi'i gynllunio i ofyn cwestiwn sylfaenol - I beth mae hyn oll? I beth mae gwleidyddiaeth, economeg, busnes, addysg, gwasanaethau iechyd, cymuned, cymdeithas sifil? Beth ydyn ni i gyd yn ceisio'i gyflawni? Mae eglurder ar yr ateb i’r cwestiwn hwn yn ein galluogi i lunio ein heconomi, ein bywyd gwleidyddol a chyhoeddus, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cymunedau a'r strydoedd lle rydyn ni’n byw, er mwyn cyflawni.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn rhoi'r amodau ar gyfer llesiant yn ganolog i’r cyfan, ond mae hefyd yn rhoi'r un pwysigrwydd ar sicrhau dosbarthiad tecach o'r amodau hynny a sicrhau y cânt eu cyflawni mewn ffordd nad yw'n cyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ffynnu. Mae wedi’i gynllunio fel teclyn ymarferol y gellir ei ddefnyddio i helpu arweinwyr sydd am sicrhau mai canlyniad ein holl ymdrechion yw bywyd gwell i genedlaethau heddiw ac yfory.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi'i gynllunio i ddangos pa mor dda mae ardaloedd yn darparu'n deg ac yn gynaliadwy yr amodau sy'n creu llesiant.

Mae’r set o fesurau a ddefnyddir yn Llefydd Llewyrchus Cymru, sydd wedi’i seilio ar fodel Mynegai’r ‘Thriving Places Index’ a ddatblygwyd gan Happy City ac a ddefnyddiwyd ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol haen uchaf Lloegr, wedi’i datblygu gan Happy City, Data Cymru a phum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent i adlewyrchu cyd-destun Cymru ac argaeledd ffynonellau data addas. Mae 25 o’r mesurau a ddefnyddiwyd yn Lloegr ar gael ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Cymru o’r un ffynhonnell. Nid yw’r 30 mesur sy’n weddill yn Llefydd Llewyrchus Cymru yn cael eu defnyddio ym Mynegai Lloegr.

Mae'r mesurau a ddefnyddir wedi'u rhannu'n dri dimensiwn - Amodau lleol, Cydraddoldeb a Chynaliadwyedd (Lefel 1).

Mae'r dimensiwn Amodau lleol wedi'i rannu'n bum parth – Lle a’r amgylchedd; Iechyd meddwl a chorfforol; Addysg a dysgu; Gwaith a'r economi leol; a Phobl a'r gymuned (Lefel 2).

Mae'r pum parth yn y dimensiynau Amodau lleol a Chydraddoldeb a Chynaliadwyedd wedi'u rhannu ymhellach yn 25 is-barth (Lefel 3).

Mae pob is-barth yn cynnwys un neu fwy o fesurau. Mae 55 o fesurau i gyd.

Cyfrifir sgorau ardaloedd awdurdodau lleol ar gyfer pob dimensiwn, parth ac is-barth. Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn defnyddio sgorau-z i 'normaleiddio’r data’ i greu'r mesurau.

Caiff y sgorau-z eu trosi i raddfa rhwng 0 a 10, gyda 5 yn cynrychioli cyfartaledd Cymru. Mae sgôr o 10 yn nodi amodau eithriadol o dda ar gyfer llesiant ac mae sgôr o 0 yn nodi amodau eithriadol o wael ar gyfer llesiant. Mae unrhyw wyriad yn y sgorau-z o fwy na 3.5 o wyriadau safonol o'r cymedr yn cael eu hystyried yn allanolynnau a chaiff eu sgorau eu capio ar naill ai 0 neu 10. Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn cynnwys un mesur yn unig (sef allyriadau CO2 yng Nghastell-nedd Port Talbot) sydd wedi'i gapio.

Dangosir y sgorau mewn pum band:

  • mwy na 6.5;
  • 5.5 i 6.5;
  • 4.5 i 5.5;
  • 3.5 i 4.5; a
  • llai na 3.5.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol trefol a gwledig fel ei gilydd. Nid yw’n briodol llunio mynegai ar wahân ar gyfer ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru am fod llawer o ardaloedd awdurdodau lleol yn cynnwys ardaloedd gwledig a threfol. Am nad yw llawer o'r data a ddefnyddir ar gael ar lefel ddaearyddol islaw lefel awdurdod lleol, ni ellir cyfrifo Llefydd Llewyrchus Cymru ar gyfer ardaloedd llai.

Bydd yr amodau sy'n creu llesiant yn wahanol ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig. Er enghraifft, mae i ba raddau mae dinasyddion yn cerdded neu'n beicio i'r gwaith, o'u cymharu â defnyddio trafnidiaeth 'anweithgar' (e.e. gyrru car) yn debygol o fod yn fwy mewn ardaloedd trefol nag mewn ardaloedd gwledig. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd ardaloedd gwledig yn gwneud yn waeth nag ardaloedd trefol yn y cyswllt hwn. Bydd ystyriaeth o'r fath yn bwysig wrth ddehongli'r canlyniadau a chymharu sgorau gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru’n uno mesurau presennol amodau lleol yng Nghymru, yn fwyaf nodedig Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mae MALlC yn fynegai hirsefydlog sy'n darparu asesiad cadarn o'r ardaloedd lle ceir crynodiadau o bobl sy'n profi amddifadedd. Ei gryfder yw’r ffaith y gall wneud hynny i lefel ddaearyddol Ardal Gynnyrch Ehangach Is (AGEI).

Ni fwriedir i Llefydd Llewyrchus Cymru gystadlu gyda MALlC na’i ddisodli. Yn hytrach, mae'n ategu MALlC o ran deall llesiant yn lleol. Gall helpu i nodi llefydd llewyrchus, yn hytrach na chanolbwyntio ar grynodiadau o amddifadedd yn unig. Mae'n cynnwys asedau, yn hytrach na diffygion yn unig. Caiff rhai o'r dangosyddion a ddefnyddir ym MALlC hefyd eu defnyddio fel mesurau yn Llefydd Llewyrchus Cymru, er bod hyn ar lefel awdurdod lleol.

Fel y gellid disgwyl, mae’r ddau fynegai’n cydberthyn yn gadarn iawn. Fel mynegeion ategol, maent, at ei gilydd, yn darparu darlun cyflawnach o lesiant lleol.

Yng Nghymru mae gennym set o ddangosyddion cenedlaethol hefyd. Mae'r set hon wedi'i datblygu ar gyfer mesur cynnydd y genedl tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Er mai ffocws cenedlaethol sydd iddynt, mae rhai o'r dangosyddion cenedlaethol ar gael ar lefel ddaearyddol ardal awdurdod lleol. Lle y bo'n briodol, mae’r rhain hefyd wedi’u defnyddio fel mesurau yn Llefydd Llewyrchus Cymru.

Ar draws y DU, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) hefyd yn edrych ar ddata llesiant. Mae'r gwaith hwn yn rhan o'u Rhaglen Mesur Llesiant Cenedlaethol, sy'n edrych ar lesiant cymdeithasol a phersonol. Mae'r rhaglen yn cynnwys mesuriadau unigolion ar draws 43 o ddangosyddion sy'n cwmpasu iechyd, perthnasau, addysg a sgiliau, yr hyn y mae pobl yn ei wneud, ble maent yn byw, eu sefyllfa ariannol a'u hamgylchedd.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn declyn sy'n seiliedig ar le. Mae wedi’i gynllunio i gael ei ddefnyddio gan y rhai sydd â diddordeb mewn llefydd lleol – er mwyn archwilio cryfderau ac anghenion lleol, helpu i lywio penderfyniadau a llunio blaenoriaethau o amgylch fframwaith cynnydd cyffredin. Er ei fod yn hwyluso tynnu cymariaethau rhwng ardaloedd, nid dyma yw ei ddiben allweddol.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru’n declyn ymarferol ar gyfer rhoi polisi a chamau gweithredu lleol ar waith mewn ffordd sy’n cyflawni yng nghyswllt llesiant. Wrth ei wreiddio mewn prosesau lleol, gall fod yn ddylanwad grymus ar siâp datblygu lleol. Drwy asesu’r amodau ar gyfer cymunedau llewyrchus ar lefel ‘lle cyfan’, gall gwahanol gyfranwyr lleol – o gymdeithas sifil, llywodraeth leol, academia a busnes, i ddinasyddion a grwpiau cymunedol bach – fynd i’r afael â phroblemau sydd ag iddynt wreiddiau dwfn iawn drwy gydweithredu. Mae’n darparu ffordd gyson a chymaradwy o gytuno, mesur ac olrhain cynnydd tuag at nodau cyffredin; ‘ymagwedd gyffredin’ ar draws sectorau ac ardaloedd daearyddol a rhyngddynt.

Nid yw wedi'i gynllunio i fod yn declyn fframwaith perfformiad. Mae’r mesurau’n cwmpasu llawer o wahanol wasanaethau a gwahanol ddarparwyr ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Nid yw Llefydd Llewyrchus Cymru’n mesur llwyddiant, na diffyg llwyddiant, sefydliadau unigol yng Nghymru ac ni ddylid ei ddefnyddio fel tabl cynghrair o berfformiad awdurdodau lleol.

Ni ddylid defnyddio Llefydd Llewyrchus Cymru i gymharu ardaloedd yng Nghymru ochr yn ochr ag ardaloedd ym Mynegai’r ‘Thriving Places Index’ yn Lloegr. Mae'r fethodoleg a ddefnyddir yn y ddwy wlad yr un peth, ond defnyddir mesurau gwahanol i lunio’r sgorau is-barth, parth a dimensiwn.

Byddwn yn cyhoeddi manylion pellach am y dull o lunio’r teclyn, y mesurau a ddefnyddir a'r fethodoleg a ddefnyddir. Yn y cyfamser, defnyddiwch y cyfleuster ‘cysylltu â ni’ yn y teclyn hwn os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Bwriadwn barhau i ychwanegu cynnwys i'r wefan hon yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y cynnwys hwn yn cynnwys mwy o fanylion am y fethodoleg, y mesurau, dadansoddiad pellach o'r sgorau yn Llefydd Llewyrchus Cymru (gan gynnwys dadansoddiad pwrpasol, er enghraifft ar y berthynas rhwng ardaloedd trefol a gwledig), a phapurau i roi cymorth ac arweiniad i ddefnyddwyr.

Mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi’i greu ar hyn o bryd gan ddefnyddio 55 o fesurau. Mae diweddariadau i'r mesurau hyn ar gael ar adegau gwahanol drwy'r flwyddyn.

Rydym yn bwriadu diweddaru Llefydd Llewyrchus Cymru’n flynyddol, yn unol â datblygiadau i’r diweddariadau cyffredinol i Fynegai’r ‘Thriving Places Index’. Bydd amseriad y diweddariad hwn yn ystyried amseriad y diweddariadau ar gyfer mesurau unigol ymysg ffactorau eraill. Bwriedir cynnal y diweddariad cyntaf yn gynnar yn 2019.

Rydym yn disgwyl y bydd fersiynau Llefydd Llewyrchus Cymru yn y dyfodol yn defnyddio ffynonellau data newydd a gwell wrth iddynt ddod i’r fei. Byddwn hefyd am adlewyrchu unrhyw waith pellach a wneir i ddatblygu'r Mynegai yn Lloegr, lle bo hynny'n briodol ar gyfer cyd-destun Cymru.

Happy City Logo

Sefydlwyd yr elusen sy’n fenter gymdeithasol yn 2010 i herio'r gred mai twf economaidd oedd yr unig fesur o lwyddiant mewn cymdeithas. Mae’n cynnig model newid ar sail lle sy’n rhoi llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol wrth galon popeth. Mae’n gwneud hyn drwy ddatblygu mesurau cynnydd newydd a darparu hyfforddiant, prosiectau ac ymgyrchoedd er mwyn helpu eu gwreiddio yn y ffordd mae llefydd yn gweithio. Wedi’i leoli ym Mryste, mae Happy City bellach yn gweithio gyda sefydliadau mawr a bach yn y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol ym mhob cwr o’r DU.

Roedd eu Mynegai, yr Happy City Index, yn destun cynllun peilot yn 2016, ac roedd yn cynnwys naw dinas ar draws Lloegr. Diwygiwyd y Mynegai hwn yn 2017 pan gyflwynwyd Mynegai’r ‘Thriving Places Index’, a gasglodd ddata ar lefel awdurdod lleol haen uchaf yn Lloegr.

Roedd y Mynegai yn gydweithrediad rhwng Happy City a’r New Economics Foundation gyda mewnbwn gan academyddion a llunwyr polisi o bob rhan o’r DU.

Yna, cafodd y model hwn ei addasu gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n cynrychioli ardaloedd y pum awdurdod lleol yng Ngwent mewn partneriaeth â Happy City a Data Cymru i ffurfio'r model a ddefnyddir yng Ngwent, ac wedi hynny i greu Llefydd Llewyrchus Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch i’r brif wefan yma http://www.happycity.org.uk/

Neu ewch i wefan Mynegai’r ‘Thriving Places Index’ yma http://www.thrivingplacesindex.org/